Safeguarding

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch disgybl Ysgol Pontyberem, cysylltwch gyda’r pennaeth Mrs I Griffiths, 01269 870306, neu e-bostiwch indeg.griffiths@pontyberem.ysgolccc.cymru

Mr Phillip Rowe yw ein Llywodraethwr ysgol sydd â chyfrifoldeb am Ddiogelu.

Ceir mwy o fanylion yn ein polisi diogelu sydd yn yr adran polisiau ar y wefan hon.

Hafan Cymru

Mudiad elusennol yw Hafan Cymru sy’n darparu tai a chymorth i’r rhai hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan Gam-drin Domestig. Maent yn darparu pecyn cymorth wedi’i deilwra i bob unigolyn sy’n derbyn cefnogaeth.

Mae’r cymorth yn cynnwys, rhoi hwb i hyder a hunan-barch, yn ogystal â deall yr arwyddion er mwyn osgoi perthnasau camdriniol yn y dyfodol. Mae’r gwasanaeth ar gael i fenywod, dynion a’u plant sydd wedi cael eu heffeithio gan Cam-drin Domestig ac/neu sydd â phroblemau tenantiaeth yng Nghymru. Mae’r cymordd am ddim. Cysylltwch:

01267 225555

spectrumencompass@hafancymru.co.uk